Cynllunio fy nhaith

Os oes angen i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i’n tudalen Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth cyn i chi deithio.

Gallwch weld manylion am y mesurau diogelwch diweddaraf a gyflwynwyd gan weithredwyr bysiau ar ein tudalen Canllawiau gweithredwyr bysiau ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae ein tudalen Canllawiau Trafnidiaeth Cymru ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dulliau llesol o deithio a mwy.

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Cynghorion ynghylch teithio’n lleol

  • Ar y bws
  • Ar y trên
  • Ar y beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car

Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Rydych chi wedi dweud eich dweud, ac mae Prifysgol Abertawe wedi gwrando!

Mae bob amser yn bwysig eich bod yn mynegi eich barn, oherwydd eich gwasanaethau CHI yw’r rhain wedi’r cyfan. Edrychwch ar y cynnydd a wnaed ers 2014 o safbwynt gwasanaethau bws y Brifysgol.

UNISURVEYcym.pdf


Gwasanaethau Bws Prifysgol Abertawe

Pentref Myfyrwyr Hendrefoilan

8

St Davids (Heol y Morfa)

3A, 10

Prifysgol Abertawe – Campws Singleton

Parc Singleton - 2A, 3A, Metro 4 8 35

Prifysgol Abertawe – Campws y Bae

8, 10 (X1 X55 224 57 58 X58 yn pasio ar bwys yr arhosfan hwn)

Coleg Gŵyr Abertawe

Tycoch - 15, 29, 89, 41, 42, 61, 63, 64, 65, 67

Coleg Castell-nedd Port Talbot

Castell-nedd - 900, 901, 902, 903, 904, 905, 906, 907, 908, 908, X58 | Afan - 23, 225, 909, X1, X4

Coleg Pen-y-bont

Pen-y-bont ar Ogwr - 67A, 73, 74, X2 | Pen-coed - 64 | Porth-cawl - 63, X2 | Maesteg - 70, 71, 79, X3

I weld map o wasanaethau bws Prifysgol Abertawe, cliciwch yma.  I gael gwybodaeth am amserlenni, chwiliwch am rif y gwasanaeth ar wefan Traveline Cymru.


Amserlenni defnyddiol

Canol y Ddinas – Campws Singleton – West Cross – Ystumllwynarth

Ysbyty Treforys/Parc Gwernfadog – Stadiwm Liberty – Yr Orsaf Reilffordd – Canol y Ddinas – Ysbyty Singleton – Campws Singleton

Pentref Myfyrwyr Hendrefoilan – Campws Singleton – Canol y Ddinas – Parcio a Theithio Ffordd Fabian – Campws y Bae

Campws Singleton – Ysbyty Singleton – Sketty Cross – Uplands – Canol y Ddinas – Yr Orsaf Reilffordd – Fflatiau St Davids – Campws y Bae


Codau arosfannau bysiau defnyddiol

Anfonwch y cod mewn neges destun i 84263* ac fe gewch chi ateb sy’n nodi’r 4 bws nesaf a ddylai gyrraedd yr arhosfan!


Os ydych ar Gampws Singleton ac am deithio i’r mannau canlynol:
Gorsaf Fysiau Abertawe, Ysbyty Treforys: TECSTIWCH swatdad
Pentref Myfyrwyr Hendrefoilan: TECSTIWCH swadgwm


Os ydych ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoilan ac am deithio i’r mannau canlynol:
Gorsaf Fysiau Abertawe: TECSTIWCH swapgap
Dynfant, Y Crwys: TECSTIWCH swatgat

 

I ddod o hyd i god arhosfan arall, defnyddiwch chwiliwr arosfannau bysiau Traveline Cymru.


Tocynnau i fyfyrwyr

I gael gwybodaeth am docynnau ar gyfer FirstCymru, cliciwch yma.

I gael gwybodaeth am docynnau ar gyfer NAT Group, cliciwch yma.

 

Mae New Adventure Travel wedi cytuno i gynnig rhai prisiau teithio rhatach i’n staff a’n myfyrwyr. Dyma’r manylion:

 

Tocyn un ffordd ar unrhyw ran o wasanaethau Gŵyr neu’r T6 mor bell ag Ystradgynlais - £2

Tocyn diwrnod Abertawe a Chastell-nedd – Castell-nedd yw’r ffin ar wasanaeth y T6 a Thre-gŵyr yw’r ffin ar rwydwaith Gŵyr - £3 am y diwrnod cyfan

Tocyn wythnos Abertawe a Chastell-nedd – fel uchod - £10 am yr wythnos gyfan

Tocyn diwrnod Abertawe, Castell-nedd a Gŵyr, sy’n cynnwys rhwydwaith cyfan Gŵyr - £4 am y diwrnod cyfan

Tocyn wythnos Abertawe, Castell-nedd a Gŵyr – fel uchod - £15 am yr wythnos gyfan

 

Bydd yr holl docynnau a nodwyd ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe dim ond iddynt ddangos carden adnabod.


Tocynnau i fyfyrwyr

I gael gwybodaeth am docynnau ar gyfer FirstCymru, cliciwch yma.

I gael gwybodaeth am docynnau ar gyfer NAT Group, cliciwch yma

Ar y trên

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru. 

Beiciau’r Bae

Casgliad lliwgar o feiciau un cyflymder yw Beiciau’r Bae, sydd ar gael i’r staff a’r myfyrwyr eu defnyddio’n rhad ac am ddim o amgylch Bae Abertawe. Mae beiciau o sawl maint ar gael rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener am uchafswm o 3 awr ar y tro. Gellir darparu helmedau, goleuadau a chloeon hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.


Cynllun BUDi Teithio Abertawe

Os ydych am feicio ond nad ydych yn awyddus i wneud hynny ar eich pen eich hun, beth am greu grŵp defnyddwyr beic gan ddefnyddio’r Cynllun BUDi? Ewch i’r wefan a chofrestrwch eich taith trwy ddewis yr opsiwn beicio.


Llwybrau beicio lleol

I weld y llwybrau beicio sydd ar gael yn lleol, ewch i Cycle Swansea Bay.


Prynu beic am bris rhatach

Gall myfyrwyr sydd â chardiau adnabod dilys brynu beic am bris rhatach mewn siopau beiciau sy’n cymryd rhan yn y cynllun disgownt. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pa siopau sy’n cynnig pa ddisgownt, cliciwch yma.


Ambell air o gyngor ynghylch diogelwch ar y beic

Cyn mentro allan ar eich beic, darllenwch y cynghorion pwysig hyn ynghylch diogelwch.

Cerdded

Os ydych am gerdded ond nad ydych yn awyddus i wneud hynny ar eich pen eich hun, beth am greu grŵp cerdded gan ddefnyddio’r Cynllun BUDi? Ewch i’r wefan a chofrestrwch eich taith trwy ddewis yr opsiwn cerdded.

 

I gael cynghorion ynghylch diogelwch, cliciwch yma.

Tacsi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dacsis yn Abertawe yma.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am aros yn ddiogel yma.

Gallwch weld pob safle tacsis lleol yma.


Cynllun Tacsi Diogel

Os ydych mewn sefyllfa argyfyngus, dangoswch eich cerdyn myfyriwr i unrhyw un o yrwyr Data Cabs neu First Cymru Bus er mwyn cael lifft adre, a chewch ad-dalu pris y tocyn i Undeb y Myfyrwyr drannoeth.

 

Darllenwch y cynghorion ynghylch diogelwch sydd i’w gweld yma.

Parcio

Mae Prifysgol Abertawe yn annog pob myfyriwr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint ag sy’n bosibl. Yn unol â pholisi’r Brifysgol ers amser, nid oes lleoedd parcio ar gael i fyfyrwyr ar y naill gampws na’r llall, ar wahân i leoedd parcio ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau.

Mae gwybodaeth am leoedd parcio eraill i’w gweld isod.


Ffordd Fabian
Mae cyfleuster Parcio a Theithio ar gael ar Ffordd Fabian, nad yw’n bell iawn o Gampws y Bae. Mae’r cyfleuster yn costio £2.50 y dydd am bob car os ydych am deithio i ganol y ddinas. Os ydych am ddefnyddio’r cyfleuster Parcio a Theithio er mwyn teithio i Gampws y Bae, bydd yn costio £1.50 y dydd yn ychwanegol am bob car.  

Gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe barcio ar safleoedd Parcio a Theithio a defnyddio gwasanaeth bws arferol First Cymru i deithio i’r naill gampws neu’r llall. Cyfanswm y gost yw £4.00 – £2.50 i barcio a £1.50 i fynd ar y bws. Dyma gyfanswm y gost ar gyfer pawb sydd yn y car – hyd at uchafswm o 5 person.


Y Rec
Mae safle Parcio a Theithio’r Rec 7-8 munud o waith cerdded o Gampws y Parc. Mae’n costio £3.50 i barcio yno am y dydd, £2.50 os ydych yn rhannu car (h.y. os oes mwy nag un person yn y car) a £2.00 ar ôl 2.00pm.

Yn ogystal â bod yn gyfleus i Gampws y Parc, mae hefyd yn lle da i barcio a dal y bws i Gampws y Bae, oherwydd mae arhosfan bysiau y tu allan i faes San Helen.


Rhannu car

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i Gynllun Rhannu Cerbyd Prifysgol Abertawe.

Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.

Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun. Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Cofrestru i gael llythyr newyddion

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau