Cynllunio fy nhaith
Gwybodaeth Coronafirws
Os oes angen i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i’n tudalen Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth cyn i chi deithio.
Gallwch weld manylion am y mesurau diogelwch diweddaraf a gyflwynwyd gan weithredwyr bysiau ar ein tudalen Canllawiau gweithredwyr bysiau ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae ein tudalen Canllawiau Trafnidiaeth Cymru ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dulliau llesol o deithio a mwy.
Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf
Arosfannau bysiau defnyddiol
Cynghorion ynghylch teithio’n lleol
Fyngherdynteithio
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Ar y bws
Mae Gorsaf Fysiau Bangor yn Ffordd Garth (wrth ymyl Marks & Spencer).
Mae Arriva yn gweithredu llwybrau bysiau o amgylch Bangor a’r cyffiniau.
Mae TrawsCymru yn gwasanaethu Bangor bob dydd ac mae’n cysylltu â gwasanaethau i’r de a’r gorllewin, yn ogystal â Wrecsam ac Abermo.
I gael gwybodaeth am deithiau pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express.
Amserlenni defnyddiol
Ffordd Caernarfon (Tesco, Parc Manwerthu Dewi Sant ac ati)
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Campws Safle'r Normal
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Campws Ffriddoedd
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Eifion's Coaches
Ysbyty Gwynedd
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Eifion's Coaches
Porthaethwy
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Eifion's Coaches
Caernarfon
Arriva Cymru
Arriva Cymru
Llandudno
Arriva Cymru
Tocynnau
Mae manylion am docyn Bysiau Arriva i fyfyrwyr ar gael yma.
Ar y trên
Mae Gorsaf Drenau Bangor yn Ffordd yr Orsaf.
Gellir prynu tocynnau o’r swyddfa docynnau yng Ngorsaf Drenau Bangor neu ar wefannau Trainline neu National Rail.
Mae’r prisiau yn tueddu i fod yn rhatach o lawer os byddwch yn eu prynu cyn teithio, ond mae modd eu prynu ar y diwrnod yr ydych yn teithio hefyd.
Os ydych yn fyfyriwr llawn-amser, os ydych dan 25 oed neu os oes gennych deulu a’ch bod yn teithio ar y trên yn aml, mae’n bosibl y byddwch am brynu Cerdyn Rheilffordd. Gyda Cherdyn Rheilffordd, gallwch arbed 1/3 oddi ar bris eich tocynnau trên. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Railcard.
I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’
Ar y beic
Os ydych yn hoffi beicio er mwyn cael hwyl, er mwyn teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith neu hyd yn oed er mwyn cymryd rhan mewn rasys beicio, ewch i’r dudalen Actif ym Mangor yma.
Tacsi
Cwmnïau tacsis ym Mangor a’r cyffiniau:
- A5 Taxis: 01248 360 360
- Ace Taxis: 01248 371 717
- Chubbs Cabs: 01248 353 535
- Classic Cabs: 01248 370 717
- Owen’s Mini Coaches: 01248 602 260 / www.owenswales.co.uk
- Tryfan Cabs Ltd: 01248 370 127
Mae gwybodaeth am brisiau ar gael yma.
Car
Mae gwybodaeth am barcio ar gampysau’r Brifysgol a gwybodaeth am drwyddedau parcio i fyfyrwyr ar gael yma.
Rhannu car
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun rhannu car Bangor, ewch i dudalen y fforwm yma.
Mae rhagor o wybodaeth am gynllun rhannu car Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan ShareCymru.
Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.
Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33
Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru