Cynllunio fy nhaith
Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf
Arosfannau bysiau defnyddiol
- Gorsaf Heddlu Caerdydd
- Arena Motorpoint
- Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Parc Cathays, Caerdydd
- Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd
- Maes yr Amgueddfa, Caerdydd
- Plas y Parc, Parc Cathays
- Heol Corbett, Parc Cathays
- Heol Senghennydd, Cathays
- Neuadd y Ddinas, Parc Cathays
- Adeilad Aberconwy
- Neuadd Aberconwy
- Neuadd Aberdâr
- Canolfan yr Holl Genhedloedd
- Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
- Adeilad Bute
- Ysbyty Brenhinol Caerdydd
- Y Ganolfan Addysg – Ysbyty Athrofaol Llandochau, Caerdydd
- Y Ganolfan Ffitrwydd a Sboncen
- Adeilad y Gyfraith
- Heol Crwys
- Undeb y Myfyrwyr
- Llys Talybont
- Porth Talybont
- Gogledd Talybont
- De Talybont
- Canolfan Chwaraeon Talybont
- Pafiliwn Chwaraeon y Brifysgol
- Caeau Chwaraeon y Brifysgol
Cynghorion ynghylch teithio’n lleol
Fyngherdynteithio
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Ar y bws
I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.
Bws Caerdydd
Fel y mae’r enw yn awgrymu, mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaethau bws yng nghanol y ddinas a’i maestrefi ac i amryw fannau y tu allan i’r ddinas (e.e. Casnewydd, Penarth, Dinas Powys, Y Barri, Sain Tathan a Llanilltud Fawr).
Mapiau o rwydwaith Bws Caerdydd
Bws Caerdydd (gwasanaethau ac amserlenni)
Newport Bus
Mae nifer o ddarparwyr eraill yn cynnig gwasanaethau bws rhwng Caerdydd ac ardaloedd cyfagos.
Stagecoach
Mae nifer o ddarparwyr eraill yn cynnig gwasanaethau bws rhwng Caerdydd ac ardaloedd cyfagos.
Gwybodaeth arall
I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus
Gwasanaethau defnyddiol
Newport Bus
Cardiff Bus
Cardiff Bus
Cardiff Bus
Cardiff Bus
Cardiff Bus
Stagecoach
Stagecoach
Stagecoach
Stagecoach
Stagecoach
Edwards
Ar y trên
I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trafnidiaeth Cymru.
Cynllunio teithiau ar y beic
I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.
NextBike
Mae llawer o orsafoedd NextBike o amgylch y safle. Gallwch weld eu lleoliad a gweld faint o feiciau sydd ar gael drwy ddefnyddio ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau yn y fan hon. Chwiiwch am Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Cerdded
I gael gafael ar gyfarwyddiadau er mwyn cerdded i unrhyw le ar gampws Prifysgol Caerdydd, defnyddiwch y map rhyngweithiol hwn.
Tacsi
Premier (029 2055 5555)
Dragon (029 2033 3333)
Capital (029 2077 7777)
Teithio i Gampws Parc Cathays/Maendy
Mae traffordd yr M4 yn gwasanaethu Caerdydd ac mae modd cyrraedd y ddinas yn rhwydd o bob cwr o Brydain.
O dde-orllewin Lloegr dilynwch yr M5, ac o dde Lloegr dilynwch briffyrdd dosbarth A i’r M4.
O’r Alban, gogledd Lloegr a chanolbarth Lloegr teithiwch ar hyd yr M50 i’r M4.
Teithio tua’r dwyrain ar hyd yr M4. Gadewch y draffordd wrth Gyffordd 32 ac ewch ar hyd yr A470, gan ddilyn arwyddion ar gyfer canol y ddinas, i mewn i ardal Cathays.
Teithio tua’r gorllewin ar hyd yr M4. Gadewch y draffordd wrth Gyffordd 29 ac ewch ar hyd yr A48(M)/A48, gan ddilyn arwyddion ar gyfer Dwyrain a De Caerdydd, nes cyrraedd yr A470. Dilynwch yr A470, gan ddilyn arwyddion ar gyfer canol y ddinas, i mewn i ardal Cathays.
Parcio
Ychydig o leoedd parcio sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd cynlluniau i wneud rhagor o waith ehangu a gwella ym mhob rhan o ystâd y Brifysgol yn effeithio ymhellach ar y graddau y bydd cyfleusterau parcio ar gael yn y dyfodol.
Parcio a Theithio
Mae gan Gaerdydd ddigon o wasanaethau parcio a theithio. Gallwch barcio eich cerbyd mewn tri lle er mwyn cael eich hebrwng ar fws i ganol y ddinas. Mae hynny’n rhatach na pharcio yng nghanol y ddinas ac mae’n fodd i osgoi’r straen sy’n gysylltiedig â chwilio am le i barcio.
Rhannu car
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i Gynllun Rhannu Lifft Prifysgol Caerdydd
Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.
Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33
Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru