Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Cynghorion ynghylch teithio’n lleol

  • Ar y bws
  • Ar y trên
  • Ar y beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car

Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Amserlenni

I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.


Codau arosfannau bysiau defnyddiol

Anfonwch y cod mewn neges destun i 84263* ac fe gewch chi ateb sy’n nodi’r 4 bws nesaf a ddylai gyrraedd yr arhosfan!

 

City Road, The Parade: Text cdipaga

Treharris Street: Text cdipaga

Cardiff Royal Infirmary: Text cdimwjp

 

I ddod o hyd i god arhosfan arall, defnyddiwch chwiliwr arosfannau bysiau Traveline Cymru.


Gwybodaeth arall

I gael gwybodaeth am deithiau pellter hir ar fysiau ar draws Cymru, ewch i wefan TrawsCymru.

I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus

 

Ar y trên

Y prif orsafoedd trenau yng Nghaerdydd yw Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Bae Caerdydd.

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’.

I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru

Cynllunio teithiau ar y beic

I gynllunio taith ar y beic, ewch i Cycle Streets

Cerdded

Mae cynghorion ynghylch diogelwch wrth gerdded i’w gweld ar wefan The Complete University Guide neu Street Safe.

 

Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.

Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun. Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Cofrestru i gael llythyr newyddion

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau