Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Cynghorion ynghylch teithio’n lleol

  • Ar y bws
  • Ar y trên
  • Ar y beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car

Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Ar y bws

I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.

I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar fysiau, ewch i wefan y Brifysgol yma.


Bws Caerdydd

Fel y mae’r enw yn awgrymu, mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaethau bws yng nghanol y ddinas a’i maestrefi ac i amryw fannau y tu allan i’r ddinas (e.e. Casnewydd, Penarth, Dinas Powys, Y Barri, Sain Tathan a Llanilltud Fawr).

Mapiau o rwydwaith Bws Caerdydd
Bws Caerdydd (gwasanaethau ac amserlenni)


Stagecoach

Mae nifer o ddarparwyr eraill yn cynnig gwasanaethau bws rhwng Caerdydd ac ardaloedd cyfagos. 

Stagecoach


Teithio o bell

I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus


Teithio o’r naill gampws i’r llall

·Ar y trên – Mae’n cymryd rhyw 10 munud i gerdded o gampws Caerdydd i orsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf Caerdydd Canolog. Mae gwasanaethau rheolaidd yn mynd i’r cymoedd drwy Drefforest ac mae’r gwasanaeth i Bristol Temple Meads yn mynd drwy Gasnewydd.


· Ar y bws – Mae gwasanaeth 132 Stagecoach yn teithio o ganol dinas Caerdydd. Mae bysiau’n aros ar Llantwit Road y tu allan i gampws Trefforest.


· Ar y beic – Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 yn rhedeg heibio i gampws Glyn-taf ac mae’n cysylltu â Llwybr 8 Taith Taf sy’n cysylltu â champws Atriwm Caerdydd a champws Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i’r de, a champws Coleg Merthyr Tudful i’r gogledd. Mae sied feics y mae modd ei chloi, ystafell loceri a chyfleusterau cawod ar gael ar y ddau gampws; gofynnwch yn y dderbynfa am ragor o fanylion. Gan ddefnyddio cyfuniad o Lwybr 4 a Llwybr 47 mae’n bosibl cyrraedd Casnewydd drwy Gaerffili. Ewch i wefan Sustrans i gael rhagor o fanylion.

Ar y trên

Y prif orsafoedd trenau yng Nghaerdydd yw Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Bae Caerdydd.

 

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’.

 

I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru, National Rail neu Split Ticketing.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Brifysgol yma.

Cynllunio teithiau ar y beic

I gynllunio taith ar y beic, ewch i Cycle Streets.


Gwybodaeth am feicio

Mae’n hawdd beicio i’r Brifysgol diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beicio a llwybrau ceffylau sy’n cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. Cymerwch gip ar lwybrau’r Rhwydwaith Beicio ar Sustrans i gael rhagor o wybodaeth.


Mae gât y mae modd ei chloi yn diogelu’r cabanau beiciau yn yr Atriwm ac Atlantic House. Er mwyn cael cerdyn i agor y gât, bydd angen i chi lenwi Ffurflen y Cynllun Cofrestru Beiciau Myfyrwyr yn gyntaf. Ar ôl llenwi’r ffurflen gais, cysylltir â chi’n fuan i drefnu eich bod yn casglu eich cerdyn a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i’r caban. Sylwch y byddwn yn codi tâl o £5 am unrhyw gardiau a gaiff eu difrodi neu’u colli.


Os ydych yn cael unrhyw drafferthion, cysylltwch â Derbynfa’r Atriwm ar 01443 668543. Mae loceri ar gael yn y caban beiciau a gall beicwyr gael cawod yn rhad ac am ddim ar ail lawr adeilad yr Atriwm.

Gwybodaeth am gerdded

Mae’n hawdd iawn cerdded o gwmpas dinas Caerdydd. Mae bron popeth o fewn pellter hwylus i’w gilydd yng nghanol y ddinas, ac mae modd cerdded i’r rhan fwyaf o ardaloedd preswyl sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr mewn hanner awr.

Yn ogystal, ceir llwybrau troed â golygfeydd prydferth drwy barciau neu ar hyd camlesi.

Cynllun tacsis diogel

Mae Dragon Taxis yn darparu cynllun tacsis diogel os ydych mewn argyfwng ac os oes angen i chi deithio adref. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Parcio

Ychydig o leoedd parcio sydd ar y campws, ond gellir parcio yn y maes parcio NCP gyferbyn â’r campws am £7 y dydd.

 

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am barcio ar y campws, parcio os oes gennych anableddau neu barcio oddi ar y campws, ewch i’r wefan hon.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yrru car yma.

 

Mae angen trwydded barcio mewn rhai ardaloedd, ac mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.

 

Gellir cael gwybodaeth am safleoedd Parcio a Theithio yn y ddinas ar wefan Cyngor Caerdydd.


Rhannu car

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i’r wefan hon.

Mae Uber yn cynnig codau teithio am ddim ar Google Maps, sy’n gwahodd pobl i rannu teithiau car. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma

Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.

Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun. Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Cofrestru i gael llythyr newyddion

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau