Cynllunio fy nhaith
Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf
Arosfannau bysiau defnyddiol
Cynghorion ynghylch teithio’n lleol
Fyngherdynteithio
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Amserlenni defnyddiol
I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.
Cardiff Met Rider
Mae’r gwasanaeth Met Riders yn gweithredu yn ystod y tymor gan deithio o amgylch pob campws, y neuaddau preifat, Y Rhath/Cathays a chanol y ddinas. Gwasanaeth y Met Rider yw’r gwasanaeth bysiau mwyaf yng Nghymru i fyfyrwyr, ac mae’n cael cymhorthdal hael gan y Brifysgol er mwyn ei wneud yn fwy fforddiadwy i fyfyrwyr.
I wneud cais am docyn Met Rider a gweld y gwahanol lwybrau, ewch i wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Gwasanaethau defnyddiol
Cardiff Bus
Ar y trên
I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’
I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru
Cynllunio teithiau ar y beic
I gynllunio taith ar y beic, ewch i Cycle Streets
Campws Llandaf
- 160 o fannau storio dan do, y gellir cael mynediad iddynt â cherdyn
- Mannau parcio beiciau yn yr awyr agored
- Lôn feiciau
- Cawodydd i feicwyr
- Cyfleusterau newid a storio
- Sesiynau Dr Bike
- Tîm beicio myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Cyncoed
- 60 o fannau storio dan do, y gellir cael mynediad iddynt â cherdyn
- Mannau parcio beiciau yn yr awyr agored
- Sesiynau Dr Bike
- Tîm beicio myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Plas Gwyn
- 40 o fannau storio dan do, y gellir cael mynediad iddynt â cherdyn
NextBike
Mae llawer o orsafoedd NextBike o amgylch y safle. Gallwch weld eu lleoliad a gweld faint o feiciau sydd ar gael drwy ddefnyddio ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau yn y fan hon. Chwiiwch am Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Cerdded
I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.
Tacsi
Premier (029 2055 5555)
Dragon (029 2033 3333)
Capital (029 2077 7777)
Parcio
Campws Cyncoed
- Nifer gyfyngedig o leoedd parcio ar gael.
- Talu ac Arddangos neu drwydded barcio i fyfyrwyr.
Campws Llandaf
- Dim lleoedd parcio ar gael.
- Y man agosaf yw Clwb Rygbi Llandaf lle ceir nifer gyfyngedig o leoedd parcio. Codir £3.50 y dydd amdanynt ar hyn o bryd.
Plas Gwyn
- Nifer gyfyngedig o leoedd parcio ar gael.
- Talu ac Arddangos neu drwydded barcio i fyfyrwyr.
Neuaddau Ffordd y Gogledd
- Dim lleoedd parcio i breswylwyr yn unrhyw un o’r Neuaddau.
Rhannu car
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i Rhannu Ceir Caerdydd
Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.
Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33
Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru