Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Amserlenni defnyddiol
I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.
Cardiff Met Rider
Mae’r gwasanaeth Met Riders yn gweithredu yn ystod y tymor gan deithio o amgylch pob campws, y neuaddau preifat, Y Rhath/Cathays a chanol y ddinas. Gwasanaeth y Met Rider yw’r gwasanaeth bysiau mwyaf yng Nghymru i fyfyrwyr, ac mae’n cael cymhorthdal hael gan y Brifysgol er mwyn ei wneud yn fwy fforddiadwy i fyfyrwyr.
I wneud cais am docyn Met Rider a gweld y gwahanol lwybrau, ewch i wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.