Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Cynghorion ynghylch teithio’n lleol

  • Ar y bws
  • Ar y trên
  • Ar y beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car

Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Amserlenni

I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.

Llyfrynnau Amserlenni First Cymru ardal Abertawe (i’w lawrlwytho) yma.


Tocynnau

I gael gwybodaeth am y tocyn PlusBus, cliciwch yma.

I gael gwybodaeth am docynnau First Cymru, ewch i’r wefan yma.

 


Gweithredwyr lleol

I gael gwybodaeth am weithredwyr lleol, ewch i’r gwefannau canlynol:

First Cymru

South Wales Transport

New Adventure Travel

Mae gwybodaeth am orsaf fysiau Abertawe i’w chael yma.

 


Gwybodaeth arall

I gael gwybodaeth am deithiau pellter hir ar fysiau ar draws Cymru, ewch i wefan TrawsCymru.

I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus

 

Ar y trên

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’

I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru 

Cyfleusterau storio

Mae cyfleusterau storio beiciau ar gael ar y safleoedd canlynol sy’n rhan o’r brifysgol:

Mount Pleasant
Dinefwr
Ysgol Fusnes Abertawe
Campws Townhill 


Mapiau/llwybrau beicio

I gael gafael ar fapiau a llwybrau beicio yn Abertawe ewch i wefan Sustrans, gwefan Cyngor Abertawe neu wefan Cycle Swansea Bay.


Ambell air o gyngor ynghylch diogelwch

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr ar gyfer beicwyr i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU yma.

Mae gan Sustrans ystod o gynghorion defnyddiol ynghylch diogelwch ar y ffyrdd hefyd.

Mae cynghorion THINK ynghylch diogelwch i yrwyr a beicwyr i’w gweld ar wefan yr ymgyrch, yma.

Os oes diddordeb gennych mewn ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant beicio, ewch i wefan Sustrans.

I gael cynghorion ynghylch cynnal a chadw beic, cliciwch yma.


Llogi beic

I logi beic yn Abertawe, ewch i Swansea Bike Shop.

Mae gwybodaeth am ostyngiadau i fyfyrwyr i’w gweld yma.

Cerdded

Mae gwybodaeth am lwybrau cerdded lleol i’w gweld yma.

Mae cynghorion ynghylch diogelwch wrth gerdded i’w gweld ar wefan The Complete University Guide neu Street Safe.

 

Tacsi

Yellow Cabs – 01792 644446

Data Cabs – 01792 474747/545454

Citytax – 01792 475200

 

I gael cynghorion ynghylch teithio mewn tacsis, ewch i wefan Cyngor Abertawe.

Peidiwch byth â mynd i mewn i gerbyd heb drwydded. Ceisiwch beidio â theithio ar eich pen eich hun, ond os byddwch yn gwneud hynny eisteddwch y tu ôl i'r gyrrwr bob amser.

Car

Nid oes modd parcio ar y safleoedd canlynol:

Canolfan Dinefwr ar gyfer Celf, Dylunio a’r Cyfryngau
Cyfnewidfa Ddylunio ALEX
Ysgol Fusnes Abertawe
Adeilad y BBC
Campws Townhill (Neuaddau Preswyl)

Mae nifer gyfyngedig o leoedd parcio ar gael ar y safle canlynol:

Maes Parcio Pen-y-bryn (Teras Stanley)


Parcio a Theithio

Mae amryw safleoedd parcio a theithio ger Campws Abertawe:

Cyfleuster Parcio a Theithio Ffordd Fabian

Cyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr

 


Rhannu car

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, fel gyrrwr neu fel arall, ewch i wefan ShareCymru neu Liftshare.

Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.

Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun. Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Cofrestru i gael llythyr newyddion

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau