Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Cynghorion ynghylch teithio’n lleol

  • Ar y bws
  • Ar y trên
  • Ar y beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car

Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Amserlenni

I gael gafael ar amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.

Gellir cael gafael ar amserlenni ar wefan Cyngor Ceredigion hefyd.


Tocynnau

I gael gwybodaeth am y Tocyn Penwythnos Dwyffordd Rhad, dilynwch y ddolen gyswllt ganlynol.

 


Gweithredwyr lleol

I gael gwybodaeth am weithredwyr lleol yn yr ardal, cliciwch yma.

 


Gwybodaeth arall

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth bws ar alw, ewch i wefan Bwcabus.

I gael gwybodaeth am deithiau pellter hir ar fysiau ar draws Cymru, ewch i wefan TrawsCymru.

I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus.

Ar y trên

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’

I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru

Cyfleusterau storio

Mae cyfleusterau storio beiciau ar gael ar Gampws Llanbedr Pont Steffan.


Mapiau/llwybrau beicio

I gael gafael ar fapiau a llwybrau beicio yn Llanbedr Pont Steffan ewch i wefan Sustrans, gwefan Bae Ceredigion neu wefan Cyngor Sir Ceredigion.


Ambell air o gyngor ynghylch diogelwch

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr ar gyfer beicwyr i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU yma.

Mae gan Sustrans ystod o gynghorion defnyddiol ynghylch diogelwch ar y ffyrdd hefyd.

Mae cynghorion THINK ynghylch diogelwch i yrwyr a beicwyr i’w gweld ar wefan yr ymgyrch, yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant beicio, ewch i wefan Sustrans.

I gael cynghorion ynghylch cynnal a chadw beic, cliciwch yma.


Llogi beic

I logi beic yn Llanbedr Pont Steffan, ewch i Cyclemart.

Mae gwybodaeth am ostyngiadau i fyfyrwyr i’w gweld yma.

Cerdded

Mae gwybodaeth am lwybrau cerdded lleol i’w gweld yma.

Mae cynghorion ynghylch diogelwch wrth gerdded i’w gweld ar wefan The Complete University Guide neu Street Safe.

Tacsi

NickH Private Hire Taxi Cabs: 07570 760132
Lampeter Taxi: 07748 586848
Fastline Cabs: 01545 560688
Chris Cabs: 01570 481375

I gael cynghorion ynghylch diogelwch wrth deithio mewn tacsis, cliciwch yma.

Peidiwch byth â mynd i mewn i gerbyd heb drwydded. Ceisiwch beidio â theithio ar eich pen eich hun, ond os byddwch yn gwneud hynny eisteddwch y tu ôl i’r gyrrwr bob amser. 

Car

Mae nifer gyfyngedig o leoedd parcio ar gael ar gampws Llanbedr Pont Steffan.


Parcio yng Ngheredigion

I gael gwybodaeth am feysydd a ffïoedd parcio yng Ngheredigion, ewch i wefan y Cyngor yma.

 


Rhannu car

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, fel gyrrwr neu fel arall, ewch i wefan ShareCymru neu Liftshare.

Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.

Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun. Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Cofrestru i gael llythyr newyddion

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau