Cynlluniwr taith
Gall y cyfnod pan fyddwch yn dechrau yn y brifysgol fod yn hynod o anodd, felly rydych wedi dod i’r man iawn i gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal. Gallwch gynllunio eich teithiau, dod o hyd i’ch arosfannau bysiau a chael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth gyda Traveline Cymru.
Sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy...
Cynlluniwr taith
Mae ein cynlluniwr taith yma i’ch helpu i gynllunio eich taith a darganfod y ffordd hawsaf o gyrraedd y mannau yr hoffech fynd iddynt.
Ewch i'n Cynlluniwr Taith yma
Cynllunio eich taith
Teipiwch fan cychwyn a man gorffen eich taith yn y cynlluniwr taith, yn ogystal â’r dyddiad a’r amser yr hoffech chi deithio.
Pwyswch y botwm ‘Cynllunio fy nhaith’, ac yna bydd modd i chi weld yr opsiynau sydd ar gael i chi gyda’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen er mwyn cyflawni’r daith!
Beth am roi cynnig ar ei ddefnyddio yma?
* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.
** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.