Cynllunio fy nhaith
Gwybodaeth Coronafirws
Os oes angen i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i’n tudalen Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth cyn i chi deithio.
Gallwch weld manylion am y mesurau diogelwch diweddaraf a gyflwynwyd gan weithredwyr bysiau ar ein tudalen Canllawiau gweithredwyr bysiau ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae ein tudalen Canllawiau Trafnidiaeth Cymru ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dulliau llesol o deithio a mwy.
Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf
Arosfannau bysiau defnyddiol
Cynghorion ynghylch teithio’n lleol
Fyngherdynteithio
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Amserlenni defnyddiol
Bysiau sy’n mynd heibio i Gampws Penglais
Mid Wales Travel
Mid Wales Travel
Bysiau sy’n mynd heibio i Gampws Llanbadarn
Mid Wales Travel
Bysiau sy'n mynd heidio i Gampws Gogerddan
Mid Wales Travel
Tocynnau i fyfyrwyr
I gael gwybodaeth am docynnau rhatach ar gyfer Mid Wales Travel, cliciwch yma
Gwybodaeth arall
I gael gwybodaeth am deithiau pellter hir ar fysiau ar draws Cymru, ewch i wefan TrawsCymru
I gael gwybodaeth am unrhyw deithiau eraill pellter hir ar fysiau, ewch i wefan National Express neu Megabus
Gweithredwyr lleol
I gael gafael ar amserlenni gweithredwyr lleol, ewch i’r gwefannau canlynol:
Ar y trên
I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’
I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trenau Arriva Cymru
Cyrraedd Aberystwyth
Mae Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yng nghanol y dref, wrth ymyl yr Orsaf Fysiau a’r Safle Tacsis.
Mae nifer o wasanaethau bws yn teithio’n gyson o Orsaf Fysiau Aberystwyth i Gampws Penglais. I gael gwybodaeth am deithio ar fws i safleoedd eraill y brifysgol a gwybodaeth am lwybrau bysiau eraill, ewch i’r tab ‘Ar y bws’.
Mae’n cymryd tua 20 munud i gerdded i Gampws Penglais.
Cynllunio teithiau ar y beic
I gynllunio taith ar y beic, ewch i Cycle Streets
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth am siopau beiciau, cyfleusterau llogi beic a chynghorion ynghylch beicio’n ddiogel, cliciwch yma
Cerdded
Os hoffech weld golygfeydd hardd a mwynhau cefn gwlad hyfryd Cymru, mae gwybodaeth ar gael yma am lwybrau cerdded
Parcio
Mae mapiau a gwybodaeth am gyfleusterau parcio i staff a myfyrwyr, pobl anabl ac ymwelwyr i’w gweld ar wefan Prifysgol Aberystwyth
I gael gwybodaeth am barcio yn nhref Aberystwyth, ewch i wefan Cyngor Ceredigion
Rhannu car
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i Gynllun Rhannu Car Prifysgol Aberystwyth
Gellir gweld ffyrdd eraill o rannu car ar wefan Liftshare
Os oes angen i chi chwilio am broblemau teithio sy’n effeithio ar wasanaethau, ewch i wefan Traveline.
Gweld ein tudalen ‘Problemau teithio’Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan ar 0300 200 22 33
Gallwch fynd i’n gwefan cymraeg.traveline.cymru