Teithio i Gampws Parc Cathays/Maendy
Mae traffordd yr M4 yn gwasanaethu Caerdydd ac mae modd cyrraedd y ddinas yn rhwydd o bob cwr o Brydain.
O dde-orllewin Lloegr dilynwch yr M5, ac o dde Lloegr dilynwch briffyrdd dosbarth A i’r M4.
O’r Alban, gogledd Lloegr a chanolbarth Lloegr teithiwch ar hyd yr M50 i’r M4.
Teithio tua’r dwyrain ar hyd yr M4. Gadewch y draffordd wrth Gyffordd 32 ac ewch ar hyd yr A470, gan ddilyn arwyddion ar gyfer canol y ddinas, i mewn i ardal Cathays.
Teithio tua’r gorllewin ar hyd yr M4. Gadewch y draffordd wrth Gyffordd 29 ac ewch ar hyd yr A48(M)/A48, gan ddilyn arwyddion ar gyfer Dwyrain a De Caerdydd, nes cyrraedd yr A470. Dilynwch yr A470, gan ddilyn arwyddion ar gyfer canol y ddinas, i mewn i ardal Cathays.
Parcio
Ychydig o leoedd parcio sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd cynlluniau i wneud rhagor o waith ehangu a gwella ym mhob rhan o ystâd y Brifysgol yn effeithio ymhellach ar y graddau y bydd cyfleusterau parcio ar gael yn y dyfodol.
Parcio a Theithio
Mae gan Gaerdydd ddigon o wasanaethau parcio a theithio. Gallwch barcio eich cerbyd mewn tri lle er mwyn cael eich hebrwng ar fws i ganol y ddinas. Mae hynny’n rhatach na pharcio yng nghanol y ddinas ac mae’n fodd i osgoi’r straen sy’n gysylltiedig â chwilio am le i barcio.
Rhannu car
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, ewch i Gynllun Rhannu Lifft Prifysgol Caerdydd