Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
I ddod o hyd i amserlenni, ewch i wefan Traveline Cymru yma.
I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar y bws, ewch i wefan y brifysgol yma.
Mae llawer o ddarparwyr eraill yn darparu gwasanaethau bws i Gaerdydd a’r cyffiniau ac yn ôl.
Mae un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau yng Nghasnewydd – New Adventure Travel – hefyd yn darparu gwasanaethau mewn ardaloedd eraill yn y de a’r gorllewin. Gallwch weld map o rwydwaith New Adventure Travel yma.
Map gwasanaeth
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.
I weld manylion unrhyw daith bell arall ar fws, ewch i wefan National Express neu Megabus.
Teithio o’r naill gampws i’r llall
Mae’r arhosfan bysiau agosaf i gampws Glyn-taf ar Cardiff Road, lle mae gwasanaeth bws 132 yn teithio i Gaerdydd a Merthyr. Mae bysiau’n aros ar Llantwit Road y tu allan i gampws Trefforest, lle mae gwasanaeth bws 100 yn teithio i Bontypridd a Talbot Green.